SL(5)256 – Cod Trefniadaeth Ysgolion

Cefndir a Phwrpas

Gwneir y Cod hwn ar Drefniadaeth Ysgolion (“y Cod”) o dan adrannau 38 a 39 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”). 

Mae adran 38 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi Cod a all osod gofynion a chynnwys canllawiau mewn perthynas â threfniadaeth ysgolion ar y canlynol (a elwir gyda'i gilydd yn y Cod hwn yn "gyrff perthnasol"):

-      Gweinidogion Cymru;

-      awdurdodau lleol;

-      cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir;

-      hyrwyddwyr cynigion i sefydlu ysgolion gwirfoddol. 

Mae’r Cod yn gymwys i gynigion sy’n ymwneud ag ysgolion a gynhelir fel y’u diffinnir yn adran 98 o Ddeddf 2013, hynny yw ysgolion yng Nghymru, sy’n ysgolion cymunedol, sefydledig neu wirfoddol, yn ysgolion arbennig cymunedol neu’n ysgolion meithrin a gynhelir. Nid yw hyn yn cynnwys unedau cyfeirio disgyblion.

Mae'r Cod yn cynnwys yr elfennau canlynol: 

1.     Mae'n gosod gofynion y mae'n rhaid i gyrff perthnasol (neu bersonau sy'n cyflawni swyddogaeth at ddiben cyflawni'r swyddogaethau yn Rhan 2 (newidiadau sy’n gofyn am gynigion) gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir) weithredu yn unol â hwy.  Os bydd corff perthnasol yn methu â chydymffurfio â'r gofynion a nodir yn y Cod hwn, gall arwain at gyflwyno cwyn i Weinidogion Cymru neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Pan osodir gofynion gorfodol gan y Cod neu gan Ddeddf 2013 neu statud neu offeryn statudol arall, nodir bod yn rhaid i'r cyrff perthnasol gydymffurfio â'r ddarpariaeth benodol.  Pan waherddir arferion, nodir bod yn rhaid i'r cyrff perthnasol beidio ag arddel yr arferion hyn.

2.     Mae'n cynnwys y canllawiau statudol y mae'n rhaid i gyrff perthnasol roi sylw dyledus iddynt ac mae'n gosod y cyd-destun polisi, yr egwyddorion cyffredinol a'r ffactorau y dylai'r rhai sy'n cyflwyno cynigion i ad-drefnu darpariaeth ysgolion a'r rhai sy'n gyfrifol am benderfynu ar gynigion eu hystyried. Lle mae’r Cod yn cynnig canllawiau, nodir y dylai cyrff perthnasol ddilyn y canllawiau hyn oni allant ddangos bod cyfiawnhad dros beidio â gwneud hynny.

3.     Mae'n rhoi disgrifiad o'r gofynion statudol a nodir yn Neddf 2013.

Mae ail fersiwn y Cod yn gwneud trefniadau arbennig ar gyfer ysgolion gwledig (a ddiffinnir o fewn y Cod), gan sefydlu rhagdybiaeth weithdrefnol yn erbyn cau ysgolion gwledig. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynigwyr ddilyn cyfres fanylach o weithdrefnau a gofynion wrth lunio cynnig i gau ysgol wledig, wrth ymgynghori ar benderfyniad ynghylch a ddylid gweithredu cynnig i gau ysgol wledig ac wrth wneud y penderfyniad.

 

Gweithdrefn

Mae Adran 38 o’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod ar drefniadaeth ysgolion “‘y Cod”).

Mae Adran 39 o’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno copi drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn cyhoeddi neu ddiwygio Cod. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod na fydd yn cymeradwyo fersiwn drafft y Cod, ni chaiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi’r Cod arfaethedig ar ffurf y fersiwn drafft honno. Os na fydd penderfyniad o’r fath yn cael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Cod (neu’r Cod diwygiedig) ar ffurf y fersiwn drafft. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy orchymyn diwrnod penodedig.

Craffu o dan Rheol Sefydlog 21.7

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r Cod hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r Cod hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

26 Medi 2018